Description
Er bod y diffiniad o weithio hybrid yn parhau i fod yn weddol debyg yn y 2020au, mae band eang cyflymach, gwe-gamerâu a meicroffonau o ansawdd gwell, a llwyfannau cyfathrebu a chyfarfod mwy datblygedig yn golygu bellach mae gan weithio hybrid y potensial i fod yn brofiad mwy syml ac effeithlon.
Fodd bynnag, roedd gweithio hybrid yn dal i fod yn ymarfer anghyffredin, hyd yn oed hyd ddiwedd y 2010au. Dim ond pandemig COVID-19 a gynyddodd niferoedd y gweithwyr hybrid, â’r cyfnodau clo yn gorfodi llawer o bobl i weithio o adref os gallent. Bron dros nos, cododd y boblogaeth gweithio o bell yn y DU o 5% i bron 50% (Felsted a Reuschke, 2020). Roedd hyn yn amlwg yn newid dramatig i lawer o weithwyr a’u haelwydydd, a bu’n rhaid i sefydliadau ruthro i addasu i’r cyfnod newydd hwn o weithio. Daeth cyfarfodydd ar-lein wythnosol, gwiriadau ‘mewngofnodi’, a negeseuon rhithwir cyflym i gyd yn fwy cyffredin, ac o fewn ychydig fisoedd roedd y ffordd roedden ni’n gweithio wedi newid am byth.
If the coupon is not opening, disable Adblock, or try another browser.