Udemy UK

[100% Off] Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith Free Course Coupon

[100% Off]  Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith   Free  Course Coupon

Description

Mae cynorthwywyr addysgu, a staff cymorth dysgu tebyg, yn rhan sylweddol o weithlu sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus. Cânt eu galw weithiau yn ‘weithwyr parabroffesiynol’, sef gweithwyr sy’n ategu ac yn cefnogi gwaith gweithwyr proffesiynol cymwys. Byddem ni’n dadlau, fodd bynnag, bod cynorthwyo addysgu yn broffesiwn ynddo’i hun sy’n aml yn gorgyffwrdd â rôl athrawon ac yn debyg iddi. Ers iddynt gael eu cyflwyno gyntaf yn y 1960au fel ‘helpwyr’ a ‘staff ategol’, mae cynorthwywyr addysgu wedi dod yn rhan hanfodol o addysg plant mewn ysgolion cynradd ledled y DU a thu hwnt. Pa bynnag rôl y byddwch yn ei chwarae mewn ysgolion i gynorthwyo plant i ddysgu, rydych yn rhan o’r datblygiad hanesyddol hwn.

Er hwylustod, rydym wedi defnyddio’r term cyffredinol ‘cynorthwyydd addysgu’ drwy gydol yr uned hon. Rydym yn ffafrio’r term hwn dros y talfyriad ‘CA’, sydd yn lleihau statws y rôl yn ein barn ni. ‘Cynorthwyydd addysgu’ yw term dewisol y llywodraeth ar hyn o bryd, ond mae llawer o dermau eraill yn cael eu defnyddio ledled y DU. Rydym felly yn defnyddio ‘cynorthwyydd addysgu’ i gyfeirio at y mathau amrywiol o wirfoddolwyr ac oedolion cyflogedig (heblaw am athrawon cymwys) sy’n rhoi cymorth dysgu i blant oedran cynradd yn y DU.

If the coupon is not opening, disable Adblock, or try another browser.

Udemy UK
© 2024 Learn Anything