Udemy UK

[100% Off] Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol Free Course Coupon

[100% Off]  Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol   Free  Course Coupon

Description

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae pob sector, gan gynnwys y sector addysg uwch, wedi gorfod ymateb i newid nas gwelwyd ei debyg ac ansicrwydd. Gwnaeth y pandemig COVID-19 byd-eang i ni i gyd addasu’n barhaus, wrth i gyfyngiadau a chanllawiau newid rhwng 2019 a 2022. Mae llawer o sefydliadau addysg uwch (SAU) yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o ffyrdd ymatebol o weithio yn ystod y pandemig ac yn esblygu eu harferion gwaith a pholisïau i ystyried ffyrdd o weithio mewn amgylchedd hybrid.

Mae’r cwrs am ddim hwn, sy’n rhan o’r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, wedi ei ddylunio i roi’r cyfle i chi ystyried yr amgylchedd a’r cyd-destun yr ydych chi, eich tîm, a’ch sefydliad yn gweithredu ynddynt, ac i’ch annog i ystyried a yw eich strategaethau, modelau, gwerthoedd a diwylliant presennol yn addas i’r diben. Byddwn yn eich cyfeirio at y sgiliau a’r gallu digidol sy’n ofynnol i gyflawni eich amcanion yn y byd gwaith hybrid ôl-bandemig a byddwn yn defnyddio dull holistaidd o ymdrin â llesiant a chynaliadwyedd, gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

If the coupon is not opening, disable Adblock, or try another browser.

Udemy UK
© 2024 Learn Anything